Skip to main content
Menu

Rhestr wirio’r datganiad cydymffurfio

Lawrlwytho fersiwn PDF (diweddarwyd ddiwethaf 2023)


Mae’r rhestr wirio hon wedi ei dylunio i’ch helpu chi i gwblhau eich datganiad cydymffurfio ar-lein. Mae’n dangos i chi’r holl wybodaeth fydd ei hangen arnoch a lle y gallwch ddod o hyd iddi.

Mae’n rhaid i chi gwblhau eich datganiad cydymffurfio i ddweud wrthym sut rydych chi wedi cyflawni eich dyletswyddau cyfreithiol.

Efallai y bydd angen i chi ddarparu'r holl wybodaeth isod i'r rheoleiddiwr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dechrau eich datganiad cyn eich dyddiad cau oherwydd gall y wybodaeth y bydd ei hangen arnoch gymryd amser i'w pharatoi.

Rhaid i chi gwblhau eich datganiad gyda'r Rheoleiddiwr Pensiynau o fewn pum mis calendr ar ôl dyddiad dechrau eich dyletswyddau.

Gwybodaeth y bydd angen i chi ei darparu Nodiadau canllaw
Cyfeirnod(au) cynllun PAYE ar gyfer pob cynllun TWE y mae'r cyflogwr yn eu defnyddio

Os ydych yn gweithredu mwy nag un cynllun TWE, rhaid i chi ddarparu manylion ar gyfer pob un ohonynt. Gellir dod o hyd i'ch cyfeirnod TWE ar y llythyr rydych chi wedi'i dderbyn oddi wrthym am gofrestru awtomatig. 

Gallwch hefyd ddod o hyd iddo ar eich llythyr gan CThEM 
pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr am y tro cyntaf, neu gan eich meddalwedd cyflogres.

Cod y llythyr gan y Rheolydd Pensiyna Eich cod 10 digid unigryw ar dop pob llythyr cofrestru awtomatig rydych yn ei gael gennym ni. Os oes angen i chi gwblhau datganiad ar gyfer mwy nag un cyflogwr, bydd arnoch angen cod y llythyr ar gyfer pob un.
Eich manylion cyswllt Eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.
Eich perthynas â’r cyflogwr Er enghraifft, asiant fel cyfrifydd neu gynghorydd ariannol.
Rhif Tŷ'r Cwmnïau Rhif wyth digid, neu ddau nod alffa gyda rhif chwe igid.
Rhif cymdeithas ddiwydiannol a darbodus Rhif cofrestru rhif elusen gofrestredig

Os ydychwedi dweud wrthym nad oes gennych rif Tŷ'r Cwmnïau, rhaid i chi ddewis un o'r opsiynau canlynol yn lle: Rhif cymdeithas ddiwydiannol a darbodus; Rhif elusen gofrestredig; Rhif cofrestru TAW.

Os nad oes gennych unrhyw un o'r rhaindewiswch 'dim o'r uchod'.

Manylion cyswllt y cyflogwr Enw a theitl swydd y perchennog neu'r person uchaf gyda'r cyflogwr. Gallai hyn fod y person sy'n cyflogi cynorthwyydd gofal personol neu rywun i'w helpu yn y cartref. Ni ddylai hyn fod yn enw asiant neu drydydd parti sy'n cwblhau datganiad ar ran y cyflogwr.
Dewisiadau cyswllt Bydd y Rheolydd Pensiynau yn anfon yr holl ddogfennau swyddogol a hysbysiadau cyfreithiol atoch chi yn y post.
Os ydych chi’n cytuno, mae’n bosibl y byddwn yn eu hanfon drwy e-bost hefyd.
Cyfeiriad gohebiaeth y cyflogwr Eich prif gyfeiriad neu gyfeiriad y cwmni cofrestredig.
Math o gynllun(iau) pensiwn a ddefnyddir ar gyfer cofrestru awtomatig (personol neu alwedigaethol)

Os nad ydych yn siŵr pa fath o gynllun sydd gennych yna cysylltwch â'ch cynllun pensiwn.

Nodwch fod NEST yn gynllun pensiwn galwedigaethol.

Cyfeirnod cynllun pensiwn y cyflogwr (EPSR)

Dyma gyfeirnod unigryw eich cynllun pensiwn, sydd i'w weld ar unrhyw ohebiaeth gan eich darparwr pensiwn. Ar gyfer NEST dyma'r 'ID cyflogwr NEST' neu ar gyfer cynlluniau eraill gellir ei ddisgrifio hefyd fel rhif polisi'r grŵp.

Gallwch ddod o hyd i'r cyfeirnod hwn ar ohebiaeth o'ch cynllun pensiwn. Os oes amheuaeth, cysylltwch â'ch cynllun pensiwn.

Rhif cofrestru’r cynllun pensiwn (PSR) Bydd angen hyn arnoch ar gyfer pob cynllun pensiwn ac eithrio NEST. Mae hwn yn rhif 8 digid sy'n dechrau gydag 1. Dylai eich cynllun pensiwn fod wedi darparu hyn i chi yn barod. Os oes amheuaeth, cysylltwch â nhw.
Enw a chyfeiriad y cynllun(iau) pensiwn a 
ddefnyddiwyd ar gyfer cofrestru’n awtomatig
Os nad oesgennych PSR rhaid i chi gwblhau'r adran hon.
Byddwch mor fanwl gywir â phosibl.
Cyfanswm nifer* y staff a gyflogir ar ddyddiad dechrau eich dyletswyddau Dyma nifer y staff a gyflogir gennych ar ddyddiad dechrau eich dyletswyddau. Mae hyn yn cynnwys cynorthwywyr gofal personol a phobl a gyflogir i'ch helpu yn eich cartref.
Nifer* y staff y bu’n rhaid i chi eu cynnwys mewn 
cynllun pensiwn
Dyma nifer y staff y bu'n rhaid i chi eu cofrestru ar gynllun pensiwn ar ddyddiad dechrau eich dyletswyddau (neu ddyddiad gohirio). Dylai hyn gynnwys unrhyw un a ofynnodd am adael y cynllun neu a adawodd eich cyflogaeth ers dyddiad dechrau eich dyletswyddau. Peidiwch â chynnwys unrhyw un a ofynnodd am ymuno â'ch cynllun pensiwn neu a oedd eisoes mewn cynllun pensiwn ar ddyddiad dechrau eich dyletswyddau.
Nifer* y staff a oedd eisoes yn aelodau o gynllun 
pensiwn (ar ddyddiad dechrau eich dyletswyddau)

Dyma'r nifer o bobl a oedd, ar ddyddiad dechrau eich 
dyletswyddau, eisoes mewn cynllun pensiwn yr ydych wedi'i sefydlu ar eu cyfer. Peidiwch â chynnwys unrhyw un y bu'n rhaid i chi ei roi mewn cynllun ar ddyddiad dechrau eich dyletswyddau.

Peidiwch â chynnwys unrhyw un a ofynnodd am ymuno neu a  gafodd ei roi yn y cynllun ar ôl dyddiad cychwyn y dyletswyddau.

Diwrnod olaf y cyfnod(au) gohirio. Mae hyn yn 
berthnasol dim ond os ydych wedi defnyddio gohirio
Ni allwch'gwblhau eich datganiad tan ar ôl y dyddiad hwn. Rydymyn eich annog i ddechrau eich datganiad cyn gynted â phosibl.
Nifer* y staff nad ydynt yn perthyn i unrhyw un o’r 
categorïau uchod
Pawb arall a oedd yn gweithio i chi ar ddyddiad dechrau eich dyletswyddau neu eich dyddiad gweithredu nad ydych chi wedi sôn amdanynt yn barod. Mae hyn yn cynnwys y rheini a ofynnodd am gael ymuno â’ch cynllun pensiwn ac unrhyw un sydd ers hynny wedi gadael eich cyflogaeth. Ni ddylai hyn gynnwys unrhyw un a ddechreuodd weithio i chi ar ôl dyddiad dechrau eich dyletswyddau neu eich dyddiad gweithredu.

Gair o gyngor

  1. Sicrhewch eich bod wedi paratoi - bydd angen yr holl wybodaeth ar y rhestr wirio hon.
  2. Eich cyfrifoldeb chi fel cyflogwr yw hyn - peidiwch â chymryd y bydd asiant, trydydd parti neu eich cynllun pensiwn yn gwneud hyn ar eich rhan.
  3. Dechreuwch mewn da bryd gyda’r wybodaeth rydych chi eisoes yn ei gwybod - mae modd cadw unrhyw beth y byddwch chi’n ei ychwanegu ar unrhyw adeg.
  4. Os oes rhaid i chi gynnwys staff mewn cynllun pensiwn, cwblhewch eich datganiad cyn gynted ag y byddwch wedi gwneud hyn.
  5. Dim ond y cynlluniau pensiwn rydych chi wedi eu defnyddio i gynnwys eich staff er mwyn eu cofrestru’n awtomatig y dylech sôn wrthym amdanynt.
  6. Sicrhewch eich bod yn gwybod am bob cynllun TWE rydych yn ei ddefnyddio ac yn dweud wrthym amdanynt.

Mae’r rhestr wirio hon wedi ei llunio i’ch helpu chi i gydymffurfio â’ch dyletswyddau cyfreithiol o dan Reoliadau a Deddf Pensiynau 2008. Er y gallwn gynnig arweiniad i chi, ni ddylid ystyried bod y rhestr wirio hon yn cymryd lle’r gyfraith nac yn ddehongliad awdurdodol ohoni. Os oes gennych unrhyw amheuon am eich dyletswyddau cyfreithiol dylech ofyn am gyngor cyfreithiol neu gyngor arbenigol arall.

*Darparwch ffigurau cywir lle gofynnwn i chi ddarparu rhifau neu ffigurau.

Is this page useful?

Thanks for your feedback.