Skip to main content

Rydym ni’n uwchraddio ein gwefan ar hyn o bryd. Efallai y byddwch yn sylwi bod rhai adrannau yn edrych yn wahanol tra byddwn yn gwneud y gwaith hwn. Ni fydd y cyfleuster chwilio hefyd ar gael yn ystod yr amser yma.

Ydych chi'n sefydlu busnes? Beth sy'n rhaid ichi ei wneud yn nhermau cofrestru awtomatig

Darganfod beth fydd angen ichi ei wneud ar gyfer cofrestru awtomatig os ydych yn cyflogi eich aelod cyntaf o staff ar ôl Hydref y 1af 2017.


Ar y dudalen hon

  • Beth ydy cofrestru awtomatig?
  • Ydy cofrestru awtomatig yn berthnasol imi?
  • Sut fydda i'n gwybod beth sydd angen imi ei wneud?
  • Dyletswyddau Parhaus
  • Deall eich costau
  • Help a Chefnogaeth

Beth ydy cofrestru awtomatig?

O dan Y Ddeddf Pensiynau 2008, mae'n rhaid i bob cyflogwr ym Mhrydain gofrestru staff penodol ar gynllun pensiwn a chyfrannu tuag ato. Y term am hyn ydy 'cofrestru awtomatig'

Y Rheoleiddiwr Pensiynau sy'n gyfrifol am ofalu fod yr holl gyflogwyr yn cydymffurfio gyda chyfraith pensiwn y gweithle. Mae'n bwysig eich bod yn deall beth sydd angen ichi ei wneud a pharatoi yn fuan.

Ydy cofrestru awtomatig yn berthnasol imi?

Pe baech chi'n bensaer, yn berchennog ar siop bapur, neu os oes gennych chi gynorthwyydd gofal iechyd neu ofalwr plant, rydych yn gyflogwr o'r dyddiad y bu i'ch aelod cyntaf o staff weithio ichi ac felly mae gennych chi ddyletswyddau cyfreithiol.

Os ydych chi'n cyflogi staff am y tro cyntaf, bydd eich dyletswyddau cyfreithiol ynghlwm â chofrestru awtomatig yn dechrau ar y diwrnod y bydd eich aelod cyntaf o staff yn dechrau gweithio. Dyma ydy eich dyddiad dechrau dyletswyddau. Fe ddylech chi ddechrau paratoi'n fuan ar gyfer hyn, er mwyn ichi fod yn gwybod beth sydd angen ichi ei wneud.

Sut fydda i'n gwybod beth sydd angen imi ei wneud?

Bydd eich dyletswyddau yn dibynnu ar os oes gennych chi unrhyw un i'w cofrestru ar gynllun pensiwn ai pheidio. Mae gan bob cyflogwr ddyletswyddau fel cwblhau datganiad cydymffurfio ar-lein er mwyn rhoi gwybod inni am eich gwaith yn ymwneud â chofrestru awtomatig.

Defnyddiwch ein adnodd ar-lein i ddarganfod beth sy'n rhaid ichi ei wneud ar gyfer cofrestru awtomatig.

Dyletswyddau Parhaus

Pob tro y byddwch chi'n talu eich staff (gan gynnwys staff newydd), bydd angen ichi fonitro eu hoedran a'u henillion er mwyn gweld oes angen eu cofrestru ar gynllun pensiwn a faint sydd angen ichi ei gyfrannu. Dysgu mwy am eich dyletswyddau parhaus.


Deall eich costau

Mae'n bosib y bydd angen ichi ystyried costau unigryw i sefydlu cofrestru awtomatig, ynghyd â'r gost barhaus o gyfrannu tuag at y cynllun a rheoli'r broses. Darllen mwy am deall eich costiau.


Help a Chefnogaeth

Bydd y Rheoleiddiwr Pensiynau yn cynnig arweiniad ac adnoddau er mwyn ichi fedru bodloni eich dyletswyddau cofrestru awtomatig. Byddwn hefyd yn cysylltu gyda chi i'ch atgoffa o'ch dyletswyddau cyfreithiol. Mae'n bosib y bydd angen ichi siarad gyda'ch cynghorydd busnes, er enghraifft eich cyfrifydd, er mwyn darganfod sut gallan nhw eich cefnogi.

Adnoddau Cysylltiedig

Defnyddiwch ein canllaw hanfodol i'ch helpu i baratoi ar gyfer cofrestru awtomatig a dysgu mwy am eich dyletswyddau.

Is this page useful?

Thanks for your feedback.

Page not useful?

Problems with this page?

Your email address will only be used to reply to your comment. Read our privacy notice.