Skip to main content

Rydym ni’n uwchraddio ein gwefan ar hyn o bryd. Efallai y byddwch yn sylwi bod rhai adrannau yn edrych yn wahanol tra byddwn yn gwneud y gwaith hwn. Ni fydd y cyfleuster chwilio hefyd ar gael yn ystod yr amser yma.

Ymrestru Awtomatig ar gyfer staff tymhorol neu staff dros dro

Bydd yn rhaid i bob cyflogwr ymrestru rhai staff penodol ar gynllun pensiwn a chyfrannu tuag ato. Gelwir hyn yn ymrestru awtomatig.

Bydd angen ichi fynd ati i gyflawni eich dyletswyddau ar eich dyddiad gosod, sef gwirio oedran ac enillion eich holl aelodau o staff i weld pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun pensiwn. Bydd angen ichi wneud hyn pob tro byddwch yn talu eich staff.

Os ydych yn cyflogi staff tymhorol neu staff dros dro, mae'n bosib y bydd y broses o asesu pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun pensiwn yn fwy cymhleth, yn fwy o ymdrech ac yn cymryd mwy o amser. Mae hyn oherwydd bydd angen ichi ddwyn i ystyriaeth y canlynol:

  • eu henillion ac oriau amrywiol
  • y mae'n bosib y byddan nhw'n ymuno â'ch cwmni ac yn gadael eich cwmni ar ganol cyfnodau talu neu
  • mae'n bosib eu bod nhw ond yn gweithio ichi am gyfnodau byr

I ofalu fod y broses yn haws ichi ac i arbed amser, fe ddylech chi wirio a oes modd i'ch meddalwedd cyflogres fod o help a gallwch ystyried gohirio er mwyn gohirio'r broses o benderfynu pwy ddylech chi eu hymrestru ar gynllun pensiwn.

I wybod mwy am ymdrin â staff tymhorol, gan gynnwys gwirio eich meddalwedd a gohirio, ewch i wefan y Rheoleiddiwr Pensiynau:

www.tpr.gov.uk/tymhorol

Is this page useful?

Thanks for your feedback.

Page not useful?

Problems with this page?

Your email address will only be used to reply to your comment. Read our privacy notice.