Skip to main content

Rydym ni’n uwchraddio ein gwefan ar hyn o bryd. Ni fydd y cyfleuster chwilio hefyd ar gael yn ystod yr amser yma.

Cam 4. Datganiad cydymffurfio

Mae rhaid i chi wneud hyn o fewn pum mis i’ch dyddiad dechrau dyletswyddau.


Pwysig Er ei bod yn bosibl bod rhywun arall yn eich helpu â’ch dyletswyddau ac efallai’n cwblhau’r datganiad drosoch, mae’n gyfrifoldeb cyfreithiol arnoch chi i sicrhau bod eich datganiad wedi ei gwblhau mewn pryd a bod yr wybodaeth ynddo yn gywir. Os nad ydych yn gwneud hynny, mae’n bosib y byddwch yn wynebu dirwy.
Dechrau eich datganiad rŵan

Mae hi’n ddyletswydd gyfreithiol arnoch i gwblhau eich datganiad cydymffurfio er mwyn rhoi gwybod inni sut y bu ichi gyflawni eich dyletswyddau.

Gallwch ond ddechrau ar eich datganiad cydymffurfio unwaith ichi dderbyn llythyr gennym ni oherwydd bydd angen eich cod llythyr a chyfeirnod TWE arnoch chi. Mae gennych chi hyd at bum mis i gwblhau eich datganiad ond rydym yn argymell ichi ddechrau arno cyn gynted â phosib wedi ichi gyflawni eich dyletswyddau cofrestru awtomatig.

Os ydy’r wybodaeth berthnasol i gyd gennych chi wrth law, dim ond tua chwarter awr y bydd arnoch ei angen er mwyn cwblhau’r datganiad. Defnyddiwch ein rhestr wirio i’ch helpu; mae’n nodi’r holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen ac o ble y cewch yr wybodaeth honno.

Ar ôl i chi cwblhau eich datganiad cydymffurfio, fe fydd arnoch dyletswyddau parhaus dros eich gweithwyr.

Dechrau eich datganiad rŵan

Cam blaenorol:
Cam 3. Ysgrifennu at eich gweithwyr

Is this page useful?

Thanks for your feedback.

Page not useful?

Problems with this page?

Your email address will only be used to reply to your comment. Read our privacy notice.