Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Rhoi gwybod am daliadau coll i'ch pensiwn gweithle

Dylech ddweud wrthym a ydych yn pryderu nad yw eich cyflogwr wedi talu arian i'ch cynllun pensiwn gweithle neu'n gwneud taliadau hwyr yn rheolaidd.

Pwysig

  • Arhoswch 90 diwrnod cyn i chi roi gwybod i ni am daliadau sydd ar goll. Gall gymryd hyd at dri mis i arian gael ei dalu i mewn i'ch pensiwn.
  • Os ydych wedi derbyn llythyr gan ddarparwr eich cynllun yn dweud wrthych fod eich cyflogwr wedi ei adrodd amdano wrthym ni, nid oes angen i chi roi gwybod i ni am hyn. Rydym eisoes yn ymwybodol o'r posibilrwydd hwn o dorri'r gyfraith ac rydym yn ymchwilio.
  • Rhaid i chi fod yn gweithio yn y DU fel arfer.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch i ni i asesu a yw eich cyflogwr yn gwneud y cyfraniadau pensiwn gofynnol.

Bydd TPR yn cymryd pob cam rhesymol i gynnal eich cyfrinachedd os byddwch yn gofyn i ni wneud hynny. Ni fyddwn yn datgelu eich hunaniaeth oni bai ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny.


Dechrau

Cyn i chi ddechrau

Dylech siarad â'ch cyflogwr yn gyntaf. Os ydych yn teimlo na allwch wneud hyn, neu os oes gennych bryderon o hyd ar ôl siarad â hwy, rhowch wybod i ni am y mater.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

  • Enw a chyfeiriad eich cyflogwr.
  • Rhif Cynllun Talu Wrth Ennill (PAYE) eich cyflogwr (os oes ganddo un).
    Gallwch ddod o hyd i hyn ar slipiau cyflog, P60au, P45au a P11Dau.
  • Faint o arian rydych chi'n meddwl sydd ar goll a phryd y digwyddodd hyn (neu o leiaf amcangyfrifon).
  • Y dystiolaeth rydych am ei hanfon atom.