Skip to main content

Rydym ni’n uwchraddio ein gwefan ar hyn o bryd. Efallai y byddwch yn sylwi bod rhai adrannau yn edrych yn wahanol tra byddwn yn gwneud y gwaith hwn. Ni fydd y cyfleuster chwilio hefyd ar gael yn ystod yr amser yma.

Adrodd nad yw eich cyflogwr yn cydymffurfio â'i ddyletswyddau pensiwn gweithle

Dylech ddweud wrthym os nad yw eich cyflogwr yn cydymffurfio â'i ddyletswyddau cynllun pensiwn gweithle (cofrestru awtomatig).

Pwysig

Os ydych wedi derbyn llythyr gan ddarparwr eich cynllun yn dweud wrthych fod eich cyflogwr wedi ei adrodd amdano wrthym ni, nid oes angen i chi roi gwybod i ni am hyn. Rydym eisoes yn ymwybodol o'r posibilrwydd hwn o dorri'r gyfraith ac rydym yn ymchwilio.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch i ni i asesu a yw eich cyflogwr yn cyflawni ei ddyletswyddau cofrestru awtomatig.

Bydd TPR yn cymryd pob cam rhesymol i gynnal eich cyfrinachedd os byddwch yn gofyn i ni wneud hynny. Ni fyddwn yn datgelu eich hunaniaeth oni bai ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny.

Dechrau

Cyn i chi ddechrau

Dylech siarad â'ch cyflogwr yn gyntaf. Os ydych yn teimlo na allwch wneud hyn, neu os oes gennych bryderon o hyd ar ôl siarad â hwy, rhowch wybod i ni am y mater.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

  • Enw a chyfeiriad eich cyflogwr.
  • Rhif Cynllun Wrth Ennill (PAYE) eich cyflogwr (os oes ganddo un).
    Gallwch ddod o hyd i hyn ar slipiau cyflog, P60au, P45au a P11Dau.
  • Hyd at dri o'ch slipiau diweddaraf (os ydynt ar gael).
  • Y dystiolaeth rydych am ei hanfon atom.
Is this page useful?

Thanks for your feedback.

Page not useful?

Problems with this page?

Your email address will only be used to reply to your comment. Read our privacy notice.