Skip to main content
Menu

Adrodd nad yw eich cyflogwr yn cydymffurfio â'i ddyletswyddau pensiwn gweithle

Dylech ddweud wrthym os nad yw eich cyflogwr yn cydymffurfio â'i ddyletswyddau cynllun pensiwn gweithle (cofrestru awtomatig).

Pwysig

Os ydych wedi derbyn llythyr gan ddarparwr eich cynllun yn dweud wrthych fod eich cyflogwr wedi ei adrodd amdano wrthym ni, nid oes angen i chi roi gwybod i ni am hyn. Rydym eisoes yn ymwybodol o'r posibilrwydd hwn o dorri'r gyfraith ac rydym yn ymchwilio.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch i ni i asesu a yw eich cyflogwr yn cyflawni ei ddyletswyddau cofrestru awtomatig.

Bydd TPR yn cymryd pob cam rhesymol i gynnal eich cyfrinachedd os byddwch yn gofyn i ni wneud hynny. Ni fyddwn yn datgelu eich hunaniaeth oni bai ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny.

Cyn i chi ddechrau

Dylech siarad â'ch cyflogwr yn gyntaf. Os ydych yn teimlo na allwch wneud hyn, neu os oes gennych bryderon o hyd ar ôl siarad â hwy, rhowch wybod i ni am y mater.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

  • Enw a chyfeiriad eich cyflogwr.
  • Rhif Cynllun Wrth Ennill (PAYE) eich cyflogwr (os oes ganddo un).
    Gallwch ddod o hyd i hyn ar slipiau cyflog, P60au, P45au a P11Dau.
  • Hyd at dri o'ch slipiau diweddaraf (os ydynt ar gael).
  • Y dystiolaeth rydych am ei hanfon atom.
Dechrau

Defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) wrth gysylltu â ni

Gall offer AI eich helpu i drefnu eich meddyliau ac ysgrifennu eich neges. Os ydych chi'n defnyddio AI, gwiriwch yr hyn rydych chi wedi'i ysgrifennu cyn ei anfon atom i wneud yn siŵr ei fod yn adlewyrchu'ch pryderon yn gywir ac nad yw'n cynnwys gwybodaeth anghywir neu amherthnasol. Byddwch yn ofalus wrth rannu gwybodaeth bersonol neu gyfrinachol gydag offer AI.

Diogelwch data

Am wybodaeth ar sut y defnyddir a chedwir eich data personol a’i gadw’n ddiogel a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysrwydd preifatrwydd.

Is this page useful?

Thanks for your feedback.