Skip to main content

Your browser is out of date, and unable to use many of the features of this website

Please upgrade your browser.

Ignore

This website requires cookies. Your browser currently has cookies disabled.

Cam 2 Asesu'ch staff

 Mae'n rhaid ichi wneud hyn ar eich dyddiad ail-ymrestru.

Ar eich dyddiad ail-ymrestru, bydd angen ichi asesu rhai staff penodol er mwyn gweld oes angen ichi eu hail-ymrestru ar eich cynllun pensiwn.

1. Darganfod pa staff ddylech chi eu cynnwys yn eich asesiad

Bydd ond angen ichi asesu rhai staff penodol ar gyfer eu hail-ymrestru

Y Staff y bydd angen ichi eu hasesu

Bydd yn rhaid ichi asesu staff:

  • sydd wedi gofyn y cân nhw adael (dad-ymrestru ag) eich cynllun pensiwn
  • sydd wedi gadael eich cynllun pensiwn (ymatal i fod yn rhan o'ch cynllun pensiwn) ar ôl diwedd y cyfnod dad-ymrestru.
  • sydd yn dal yn aelod o'ch cynllun pensiwn - ond wedi penderfynu lleihau cyfanswm y cyfraniadau pensiwn i fod yn is na'r lefel lleiafswm

Staff na fydd yn rhaid ichi eu hasesu

Fe gewch chi ymatal rhag asesu unrhyw staff ar eich dyddiad ail-ymrestru sydd:

  • yn rhan o'r cynllun pensiwn rydych chi'n ei ddefnyddio ar gyfer ymrestru awtomatig (cynllun cymwys)
  • yn 21 neu ieuengach
  • yn oes pensiwn gwladol (SPA) neu hŷn
  • heb dderbyn dyddiad ymrestru awtomatig eto (sy'n bodloni'r gofynion o ran oedran ac enillion ar gyfer ymrestru awtomatig neu sydd wedi eu gohirio)

2. Asesu'ch Staff

Mae yn awr angen ichi ddarganfod ydy'r staff rydych yn eu hasesu yn bodloni'r meini prawf er mwyn eu hail-ymrestru ar eich cynllun pensiwn.

Bydd yn rhaid i unrhyw aelod o staff wnaeth adael eich cynllun pensiwn ymrestru awtomatig dros 12 mis cyn eich dyddiad ail-ymrestru ac sydd:

  • rhwng 22 oed ac Oedran Pensiwn Gwladol
  • acsy'n ennill dros £10,000 y flwyddyn, neu £833 y mis, neu £192 yr wythnos

ymrestru i fod yn rhan o gynllun pensiwn a bydd gofyn ichi a'r aelod o staff gyfrannu tuag at y cynllun.

Yn ychwanegol i'r staff y mae'n rhaid ichi eu hail-ymrestru, gallwch ddewis ail-ymrestru unrhyw aelod o staff sydd:

  • rhwng 22 oed ac Oedran Pensiwn Gwladol
  • ac sy'n ennill dros £10,000 y flwyddyn, £833 y mis neu £193 yr wythnos

ac

  • wnaeth ddad-ymrestru â'ch cynllun pensiwn ymrestru'n awtomatig (cymwys) yn ystod y 12 mis cyn eich dyddiad ail-ymrestru
  • wnaeth dderbyn swm dirwyn i ben yn y 12 mis cyn eich dyddiad ail-ymrestru, yna wnaethan nhw adael eich gweithle ac fe gawson nhw eu hail-gyflogi gennych chi eto.
  • sydd wedi rhoi rhybudd neu dderbyn rhybudd i adael eu swydd
  • sydd â gwarchodaeth sylfaenol, uwch neu benodedig rhag taliadau treth ar eu cynilion pensiwn
  • sy'n gyfarwyddwr i'r cyflogwr
  • sy'n bartner mewn Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig sef y cyflogwr ac na chaiff ei drin ar gyfer dibenion treth incwm sy'n cydymffurfio â rheolau 'aelod cyflogedig' Cyllid a Thollau EM

Gallwch weld mwy o wybodaeth am yr eithriadau o'r ddyletswydd ail-ymrestru awtomatig a dyletswyddau eraill i gyflogwyr ar y Canllaw Manwl Rhif. 1 - Dyletswyddau Cyflogwyr a gosod terfynau'r gweithlu Canllaw manwl rhif. 1 - Dyletswyddau Cyflogwyr a diffinio'r gweithlu (PDF, 176kb, 34 tudalen).

3. Beth nesaf?

Mae beth sydd angen ichi ei wneud nesaf yn dibynnu ar os oes gennych chi staff i'w hail-ymrestru ar eich cynllun.

Ail-ymrestru staff ar eich cynllun pensiwn

Bydd yn rhaid ichi wneud hyn ymhen chwe wythnos o'ch dyddiad ail-ymrestru

Unwaith i chi ddarganfod pa staff sydd angen ichi eu hail-ymrestru, bydd yn rhaid ichi eu hail-ymrestru ar gynllun pensiwn yr ydych yn defnyddio ar gyfer ymrestru awtomatig a dechrau cyfrannu tuag ato. Bydd yn rhaid ichi wneud hyn ymhen chwe wythnos o'ch dyddiad ail-ymrestru.

Unwaith ichi ail-ymrestru'ch staff ar eich cynllun pensiwn, bydd angen ichi ysgrifennu atyn nhw i roi gwybod iddyn nhw. Fe wnawn ni roi gwybod ichi sut i wneud hyn yn y cam nesaf.

Ysgrifennu at eich staff >

Os nad oes gennych chi staff i'w hail-ymrestru, bydd dal gofyn ichi gwblhau eich ail-ddatganiad cydymffurfio i roi gwybod inni sut aethoch chi ati i gyflawni eich dyletswyddau ail-ymrestru. Fe wnawn ni roi gwybod ichi sut i wneud hyn yn y cam nesaf.

Cwblhau'ch Ail-ddatganiad Cydymffurfio>