Mae ambell ddyletswydd gyfreithiol y mae'n rhaid i chi eu cwrdd ar gyfer ymrestru awtomatig. Os nad ydych yn ymgymryd â'ch dyletswyddau, yna gallem gymryd camau gorfodi.
- Chi fel cyflogwr sy'n gyfrifol am wneud eich dyletswyddau cyfreithiol ynglŷn ag ymrestru awtomatig.
- Os nad ydych yn ufuddhau, gallech wynebu camau gorfodi yn cynnwys hysbysiadau cydymffurfio a hysbysiadau cosb (dirwy).
- Os byddwch yn derbyn hysbysiad cosb, yna gallwch dalu'r ddirwy ar-lein.
- Os byddwch yn hwyr yn ufuddhau, disgwyliwn i chi ad-dalu unrhyw gyfraniadau a fethwyd a rhoi staff yn y sefyllfa y byddent wedi bod ynddi pe baech wedi ufuddhau ar amser; buasai hyn hefyd yn golygu ôl-ddyddio cyfraniadau i'r diwrnod lle y bu i'ch aelod o staff fodloni'r meini prawf o ran oedran ac enillion i fod yn rhan o gynllun am y tro cyntaf.
- Pan fyddwch yn ôl-ddyddio cyfraniadau, mae'n rhaid ichi dalu'r holl gyfraniadau cyflogwr heb eu talu ac mae'n rhaid i'ch aelod o staff dalu eu rhai nhw, oni bai eich bod chi'n dewis eu talu ar eu rhan. Fel rhan o unrhyw gamau gorfodi, mae'n bosib y byddwn yn gofyn ichi dalu cyfraniadau eich staff yn ogystal â'ch cyfraniadau chi.
- Os na dalwch eich dirwy, gallwn adennill y ddyled trwy'r llysoedd.
Os ydych yn hwyr yn gwneud eich dyletswyddau
Ein hamcan cyffredinol yw i addysgu a'ch galluogi i gydymffurfio a'r ddeddfwriaeth.
Os nad ydych wedi deall eich dyletswyddau neu os ydych heb allu eu cwblhau, byddwn yn darparu cymorth er mwyn eich galluogi i'w cwblhau. Fodd bynnag, os ydych chi wedi anwybyddu eich dyletswyddau, mae'n bosib y byddwn yn mynd ati i ofalu eich bod yn cydymffurfio.
Os ydych yn hwyr yn cydymffurfio neu yn meddwl y gallech fod gadewch i ni wybod yn syth.
Anelwch at roi eich staff yn ôl yn y sefyllfa y byddent wedi bod ynddi pe baech wedi cydymffurfio mewn pryd.
Er enghraifft, os na roesoch aelod o staff ar gynllun pensiwn pan yr oedd yn ofynnol i chi wneud hynny, bydd angen i chi:
- ysgrifennwch at eich staff i egluro iddyn nhw sut mae cofrestru awtomatig yn berthnasol iddyn nhw.
- eu rhoi ar gynllun pensiwn.
- ôl-ddyddio'r cyfraniadau i'r dyddiad y bu i'r aelod o staff fodloni'r meini prawf o ran oed ac enillion i'w cofrestru ar gynllun am y tro cyntaf, fel nad ydy'ch aelod o staff ar eu colled.
Mae'n rhaid ichi dalu unrhyw gyfraniadau cyflogwr sy'n ddyledus ac mae'n rhaid i'ch aelod o staff dalu eu cyfraniadau dyledus nhw, oni bai eich bod chi yn dewis eu talu ar eu rhan. Mae'n bosib y byddan hw'n aniatáu ichi dalu'r cyfraniadau mewn rhandaliadau ond mae'n rhaid ichi wirio gyda'r cynllun ydy hyn yn opsiwn. Fel rhan o unrhyw gamau gorfodi, mae'n bosib y byddwn yn gofyn ichi dalu cyfraniadau eich staff ynghyd â'ch cyfraniadau chi.
Sut rydym yn ymchwilio anufudd-dod
Mae gennym amryw o bwerau ar gyfer ymchwiliadau anufudd-dod.
Ynghyd a gofyn am wybodaeth gan gyflogwyr yn wirfoddol, gallwn roi hysbysiad ffurfiol yn gofyn am wybodaeth a gallwn archwilio adeilad y cyflogwr. Defnyddiwn y llysoedd i wneud ymchwiliadau lle bo angen.
Cynhelir ein hymchwiliadau i'r safon uchaf, gan sicrhau rheoli teg, tryloyw a chyson
Sut rydym yn gweithredu'r gyfraith
Llythyr rhybudd
Os nad ydych wedi gwneud eich dyletswyddau cyfreithiol, byddwch yn derbyn llythyr rhybydd i ddechrau gyda therfyn i chi gyflawni eich dyletswyddau. Cysylltwch â'r rhif ar eich llythyr neu anfonwch ebost at CandE@autoenrol.tpr.gov.uk a gallwn ddweud wrthoch chi beth sydd ei angen i chi wneud eich dyletswyddau cyfreithiol. Os na fyddwch yn cyflawni eich dyletswyddau o fewn y terfyn amser yna gallech dderbyn hysbysiad statudol.
Hysbysiadau statudol
Bydd hysbysiad statudol yn gofyn i chi wneud eich dyletswyddau a / neu dalu unrhyw gyfraniadau rydych wedi eu methu neu wedi bod yn hwyr yn eu talu. Gallem hefyd amcangyfrif a chodi llog ar gyfraniadau sydd heb eu talu a gofyn i chi gyfrifo a / neu dalu'r cyfraniadau hyn. Mae'n bwysig eich bod yn gweithredu a gwneud eich dyletswyddau o fewn y terfyniad amser, neu gallech dderbyn hysbysiad cosb.
Hysbysiadau cosb
Gallwn gyhoeddi hysbysiad cosb os ydych heb ufuddhau i hysbysiad statudol, neu i ymateb i anuffudd-dod penodol.
Hysbysiad cosb benodedig
Os nad ydych yn cydymffurfio a'r hysbysiad statudol, neu os oes tystiolaeth o dor-cyfraith yna gallech dderbyn hysbysiad cosb. Mae'r ddirwy wedi ei gosod ar £400 a rhaid ei thalu cyn pen y cyfnod a nodir yn yr hysbysiad.
Rhybudd cosb gynyddol
Os parhewch i beidio â chydymffurfio a'r hysbysiad statudol yna gallech dderbyn hysbysiad cosb gynyddol. Mae hwn yn gosod terfyn amser newydd, wedi hyn byddwch yn cael eich dirwyo ar raddfa ddyddiol o £50 i £10,000 yn ddibynnol ar nifer eich staff. Bydd y ddirwy yn parhau i gynyddu ar y raddfa ddyddiol hyd nes eich bod yn cydymffurfio a'r hysbysiad statudol neu ein bod yn rhoi terfyn arno.
Hysbysiad cosb ymddygiad recriwtio gwaharddedig
Os nad ydych yn cydymffurfio a hysbysiad cydymffurfio ymddygiad recriwtio gwaharddedig neu fod tystiolaeth o dor-cyfraith, gallech dderbyn Hysbysiad cosb. Mae gan y ddirwy gyfradd benodedig o £1,000 i £5,000 yn ddibynnol ar nifer eich staff.
Talu eich hysbysiad cosb
Os ydych chi wedi cael hysbysiad cosb neu anfoneb gennym, mae amrywiaeth o ffyrdd o dalu.
Mwy o wybodaeth am sut mae talu hysbysiad cosb cofrestru awtomatig.
Bydd angen cyfeirnod eich hysbysiad cosb arnoch i wneud hyn (i'w weld ar flaen eich hysbysiad).
Apelio yn erbyn hysbysiad
Darganfod sut i wneud cais am adolygiad.
Os ydych yn anghytuno a phenderfyniad yr adolygiad a bod eich hysbysiad yn cynnwys cosb yna gallwch apelio i dribiwnlys.